Ymateb y Llywodraeth: – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 (“Rheoliadau 2026”)
Pwynt Craffu Technegol 1:
Mae Rheoliadau 2026 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 o dan baragraffau 1 ac 11(1A) o Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), gan alluogi person i apelio i’r Uwch Dribiwnlys yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Prisio Cymru (fel tribiwnlys prisio a sefydlwyd o dan baragraff 1 o Atodlen 11) mewn perthynas â hysbysiadau adran 63K. O ystyried y llwybr posibl ar gyfer apelio i’r Uwch Dribiwnlys, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod rheoliad 4(2)(b) ac (c) (a wneir o dan adran 143A(3) o Ddeddf 1988) yn angenrheidiol ac yn hwylus er mwyn sicrhau nad yw awdurdod bilio yn gosod cosb ariannol ar berson hyd nes bod y broses adolygu ac apelio – pa un ai i Dribiwnlys Prisio Cymru neu’r Uwch Dribiwnlys – wedi ei disbyddu’n llawn.
Pwynt Craffu Technegol 2:
Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau y gellid cyflwyno hysbysiad galw am dalu cyn i’r terfyn amser ar gyfer apelio i’r Uwch Dribiwnlys ddod i ben, neu cyn i ganlyniad yr apêl honno ddod yn hysbys. Dyma’r bwriad polisi. Mae’r amodau yn rheoliad 4(2) o Reoliadau 2026 yn golygu, pan na fo person yn talu’r swm sy’n ddyledus mewn hysbysiad galw am dalu a ddyroddwyd o dan reoliad 5(1)(c) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, na all yr awdurdod bilio osod cosb ariannol o dan reoliad 4 o Reoliadau 2026 oherwydd na fyddai’r amodau yn rheoliad 4(2)(b) nac (c) wedi eu bodloni.
Pwynt Craffu Technegol 3:
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno a bydd yn gwneud cywiriad cyn gwneud y Rheoliadau i sicrhau y bydd y diwygiadau a wneir gan reoliad 7(3) yn dod i rym ar ôl i reoliad 11(4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026 ddod i rym.
Pwynt Craffu Technegol 4:
Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod yr hereditament yn y termau “y meddiannydd ar hereditament” a “yw’r hereditament” ym mharagraff 1 o’r Atodlen i Reoliadau 2026 yn cyfeirio at yr un hereditament a bydd yn gwneud y cywiriad a gynigir cyn gwneud y Rheoliadau.
Pwynt Craffu Technegol 5:
Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y testun Cymraeg yn gramadegol gywir ac yn cyfeirio’r Pwyllgor at Gramadeg y Gymraeg gan Peter Wynn Thomas, adrannau 6.20 a 6.23 yn ymdrin â berfau dibeniadol anghyflawn sy’n egluro’r gystrawen hon. Nid yw’r testun ym mharagraff 2(1) yn defnyddio dull gwahanol, ond yn hytrach mae goddrych y frawddeg yn wahanol (sef “talwr ardrethi yr hereditament”, yn hytrach nag “y talwr ardrethi”) sy’n arwain at gystrawen sy'n wahanol i’r hyn a geir ym mharagraff 3(1)(b), (c) a (d) ond eto'n gywir, am fod y fannod mewn safle gwahanol yn y ddau achos.
Pwynt Craffu Technegol 6:
Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau mai’r testun Saesneg yw’r fersiwn gywir a bydd yn sicrhau bod y testun Cymraeg yn cael ei gywiro cyn gwneud y Rheoliadau.
Pwynt Craffu Technegol 7:
Nid yw adrannau 63L a 63ML o Ddeddf 1988 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau sy’n creu hawl i apelio yn erbyn cosb ariannol a osodir o dan reoliad 4, dim ond hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad adran 63K. Mae hyn yn adlewyrchu’r bwriad polisi ar gyfer gweithrediad y fframwaith gwrthweithio osgoi trethi, pan y’i cyflwynwyd gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024.
Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn i’r Rheoliadau gael eu gwneud
|
CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
|
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 |
Non-Domestic Rating (Artificial Avoidance Arrangements) (Local Lists) (Wales) Regulations 2026 |
|
Yn y dyddiad dod i rym yn yr adran italig, cywirir “1 Ebrill 2026” i ddarllen “yn unol â rheoliad 1(2) a (3)”. |
Yn y dyddiad dod i rym yn yr adran italig, cywirir “1 April 2026” i ddarllen “in accordance with regulation 1(2) and (3)”. |
|
Yn rheoliad 1, rhoddir y canlynol yn lle paragraff (2) i ddarllen: - “(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2026. (3) Daw rheoliad 7(3) i rym yn union ar ôl i reoliad 11(4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026* ddod i rym.” *mewnosodir troednodyn i ddarllen “O.S.C. 2026/15”. |
Yn rheoliad 1, rhoddir y canlynol yn lle paragraff (2) i ddarllen:- “(2) Subject to paragraph (3), these Regulations will come into force on 1 April 2026. (3) Regulation 7(3) comes into force immediately after regulation 11(4) of the Non-Domestic Rating (Provision of Information About Changes of Circumstances) (Wales) Regulations 2026* comes into force.” *mewnosodir troednodyn i ddarllen “W.S.I. 2026/15”. |
|
Ym mharagraff 1 o’r Atodlen, cywirir y testun drwy fewnosod y gair “yr” o fewn y testun “... pan fo’n gwneud person (“P”) y meddiannydd ar yr hereditament ac nid yw’r hereditament wedi ei feddiannu...”. |
Ym mharagraff 1 o’r Atodlen, cywirir y gair “a” yn y testun “(“P”) the occupier of a hereditament” i ddarllen “the”. |
|
Ym mharagraff 2(2) o’r Atodlen, cywirir y testun “....pan ddaeth X yn dalwr ardrethi hereditament...” i ddarllen “... pan ddaeth X y talwr ardrethi ar gyfer hereditament....”. |
|
|
Ym mharagraff 2(3)(a) o’r Atodlen, cywirir y testun “... pan ddaeth Y yn dalwr ardrethi yr hereditament....” i ddarllen “... pan ddaeth Y y talwr ardrethi ar gyfer hereditament....”. |
Ym mharagraff 2(3)(a) o’r Atodlen, cywirir y gair “the” yn y testun “... ratepayer of the hereditament...“, i ddarllen “a” . |
|
Ym mharagraff 2(3)(b) o’r Atodlen, cywirir y testun “... neu yr oedd P wrthi’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol” i ddarllen “neu y mae P wrthi’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol,...”. |
|